Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Blaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Priorities for the Children, Young People and Education Committee

 

CYPE 45

Ymateb gan : Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC)

Response from : Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC)

 

Cwestiwn 1 – Yn y cylch gwaith uchod, yn eich barn chi, pa flaenoriaethau neu faterion y dylai’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg roi sylw iddynt yn y Pumed Cynulliad?

·         Y berthynas rhwng lefelau ariannu ysgolion/lefelau staffio/maint dosbarthiadau/iechyd a iechyd meddyliol athrawon -  a phatrymau dros y blynyddoedd diwethaf

·         Systemau asesu, profi ac atebolrwydd ysgolion a’u sgil-effeithiau bwriadol ac anfwriadol; a yw’r systemau’n effeithiol ac yn gymesur?

·         A yw systemau Llywodraeth Cymru ar gyfer cynllunio’r gweithlu addysg yn ddigon strategol ac effeithiol? A oes mwy y gellid ei wneud i sicrhau’r niferoedd priodol o ymarferwyr sydd eu hangen i redeg system addysg effeithiol?  Gyda sylw penodol i feysydd arbenigedd/prinder, ac i’r sector cyfrwng Cymraeg.

Cwestiwn 2 - O’r blaenoriaethau neu faterion a nodwyd gennych, beth yw’r prif feysydd, yn eich barn chi, y dylid rhoi sylw iddynt yn y 12 mis nesaf (nodwch hyd at dri maes neu fater)?  Amlinellwch pam y dylid rhoi sylw i’r rhain fel prif flaenoriaethau.

Mae’r tri mater uchod yn faterion o flaenoriaeth.

Mae’r gyntaf yn un ble mae’r sefyllfa fel petai’n gwaethygu’n gyflym; er bod y gyllideb addysg wedi’i ddiogelu, nid yw hynny’n cael ei adlewyrchu yng nghyllidebau ysgolion, ac mae lefel y diswyddiadau/ymddeoliadau’n cynyddu. Mae maent dosbarthiadau ar gynnydd ac mae hyn yn rhoi straen ychwanegol sylweddol ar athrawon.

Mae’r ail (systemau profi, asesu ac atebolrwydd) yn broblem mae system addysg Cymru wedi bod yn ymgodymu â hi ers amser hirach. Mae’r gwahanol systemau ar gyfer mesur llwyddiant disgyblion a thrwyddyn nhw i fesur llwyddiant ysgolion wedi lluosogi’n sylweddol dros y blynyddoedd. Mae newidiadau wedi bod i’r amrywiol systemau, ond mae teimlad cryf mewn ysgolion nad ydynt yn arwain at wybodaeth ystyrlon, a’u bod yn stumio canlyniadau, ac yn gadael ysgolion mewn sefyllfa o orfod “chwarae’r gêm” neu bod ar eu colled yn sylweddol iawn. Yn aml, maent yn ychwanegu llwyth biwrocrataidd yn ogystal. Byddai’n fuddiol cael trosolwg diduedd gan y Pwyllgor.

Gellir dadlau bod y trydydd, sef cynllunio’r gweithlu addysg, yn broblem systemig hirdymor yn system addysg Cymru. Mae newidiadau ar y gweill i systemau Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol i Athrawon (HAGA), sydd i’w croesawu. Ond nid yw hynny gyfystyr â chynllunio strategol bwriadus i ddeall beth yw/fydd anghenion y gweithlu addysg, a sut i’w cyflenwi. Yr techneg a ddefnyddir ar hyn o bryd i reoli niferoedd yw’r targedau recriwtio ar gyfer cyrsiau HAGA – teclyn amrwd iawn. Mae gormod yn cael ei adael i hap a damwain.